Enghraifft o Brosiect

Cyflawnwyr

Prosiectau ymgysylltu celfyddydau ieuenctid sy'n defnyddio dawns a datblygu sgiliau cysylltiedig fel offeryn i ddarparu cyfleoedd, profiadau a llwybrau amgen i'r diwydiannau creadigol trwy hwyluso gofalus, cyfranogiad gwirfoddol a chyd-greu; gan gynhyrchu canlyniadau creadigol mesuradwy, ystyrlon a chofiadwy.

Achievers Featured

Roedd y rhaglen ‘Teulu Dawns Achievers’ (Cyflawnwyr) gyntaf yn brosiect peilot ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc drwy’r celfyddydau, a oedd yn hyrwyddo datblygu sgiliau artistig a sgiliau trosglwyddadwy ymhlith pobl ifanc rhwng 11 ac 25 oed, trwy gyfrwng dawns a cherddoriaeth. Roedd y prosiect yn targedu pobl ifanc drwy wasanaethau gwaith ieuenctid a gwasanaethau ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gyda’r nod o ddarparu cyfleoedd amgen, profiadau, a llwybrau i’r celfyddydau creadigol.

Manylion y Prosiect

Roedd prosiect peilot Cyflawnwyr Teulu Dawns yn hyrwyddo ymgysylltiad pobl ifanc â gweithgareddau creadigol sy’n ysbrydoli cyfranogwyr drwy ddiwylliant Affrobîts – sy’n cyfuno arddulliau cerddoriaeth a dawns draddodiadol a modern o wahanol wledydd. Arweiniodd y rhaglen 12 wythnos at rymuso cyfranogwyr i gynllunio a rhedeg eu diwrnod eu hunain – a arweinir gan bobl ifanc – ar Lwyfan Teulu Dawns yng Ngharnifal Butetown yn 2026. Ysbrydolodd y prosiect bobl ifanc amrywiol i gymryd rhan mewn gweithgareddau dawns sy’n llesol i’w llesiant, ac i feithrin sgiliau trosglwyddadwy ym maes cynllunio a chynhyrchu digwyddiadau, gan gynnig llwybrau amgen i’r sector celfyddydau.

Roedd y prosiect yn cynnwys rhaglen o weithdai mewn partneriaeth â phum sefydliad – Pafiliwn Butetown, Grassroots, Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru, Côr WOW, a Butetown Arts and Culture CIC (BACA). Ymrwymodd BACA i gomisiynu Teulu Dawns i ddarparu llwyfan dawns yng Ngharnifal Butetown am yr ail flwyddyn yn olynol, er mwyn i’r cyfranogwyr allu arddangos eu doniau a chael cyfle i gyd-greu’r rhaglen a rhedeg y llwyfan ar ail brynhawn y carnifal, ddydd Llun 31 Awst 2026.

Cyflwynodd rhaglen weithdai Cyflawnwyr arddulliau dawns gwahanol i’r bobl ifanc, a rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu coreograffi eu hunain. Roedd hefyd yn cynnwys gweithdai dylunio i archwilio gwisgoedd, logos a phethau tebyg, er mwyn i’r grŵp allu gwneud eu marchnata eu hunain. Elfen arall oedd gweithdai DJ-io – lle roedd y cyfranogwyr yn dewis ac yn chwarae eu cerddoriaeth eu hunain i gyd-fynd â’u dawnsiau, gan ychwanegu at eu sgiliau.

Cafodd y bobl ifanc gymorth i rannu eu gwaith yng Ngharnifal Butetown fel rhan o ddiwrnod lle cymerodd pobl ifanc drosodd Lwyfan Teulu Dawns. Cymerodd 21 o bobl ifanc ran, gyda 14 ohonynt yn perfformio gwaith gwreiddiol – naill ai mewn grwpiau, deuawdau neu fel unigolion. Cafodd 10 o’r 21 unigolyn gymorth i ymgymryd â rolau fel cynorthwywyr cynhyrchu, rheolwyr llwyfan a chyflwynwyr, gan sicrhau bod y rhaglen yn rhedeg yn esmwyth. Yn y tymor hir, nod Cyflawnwyr Teulu Dawns yw datblygu llysgenhadon ifanc ar gyfer y rhaglen; pobl a all arwain, sicrhau cynaliadwyedd y prosiect, a chadw’r cyfranogwyr wrth wraidd y cyfeiriad y mae’n ei gymryd yn y dyfodol.

Archwiliodd y cynllun peilot y ffordd orau o gefnogi datblygiad pobl ifanc i:
* Meithrin hyder mewn hunanfynegiant
* Creu coreograffi newydd sbon
* Perfformio ar y cyd ar y llwyfan
* Deall technegau perfformio sylfaenol
* Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol a sgiliau gweithio fel tîm

Defnyddiodd prosiect Cyflawnwyr brofiad ac arbenigedd Teulu Dawns i ddatblygu cyfleoedd dysgu, gan wella rhagolygon cyflogadwyedd y cyfranogwyr yn y celfyddydau. Yr hwyluswyr o Deulu Dawns ar gyfer Cyflawnwyr oedd Abdulmujib Oloye Yahaya a Cathryn McShane-Kouyaté; gyda’i gilydd, mae ganddynt brofiad eang creadigol a phrofiad o reoli prosiectau, a sicrhaodd hynny fod y prosiect yn llwyddiannus. Gwahoddasant hefyd diwtoriaid a mentoriaid ag arbenigeddau amrywiol i arwain gweithdai penodol. Roedd y rhain yn cynnwys Keith Murrell (Cyfarwyddwr Artistig Carnifal Butetown), Dr Adéọlá Dewis (artist carnifal, dawnsiwr ac ymchwilydd), Ayoub Boukhalfa (dawns Morocaidd), Sarah Adedeji (dawns Affro a Hip Hop), Rason Eddy (dawns draddodiadol y ‘Masquerade’ o St Kitts yn y Caribî), Chillee Noir (ffilm a ffotograffiaeth), Joel Beswick (sain), Eddie Manu (coreograffydd dawns draddodiadol ac Affrobît), a DJ Timi (DJ Affrobît).

Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu prosiect tebyg yn eich ardal.

“Dwi’n teimlo mor anrhydeddus… roedd yr ymarferion yn hir iawn, roedd hi’n flinedig, ond pan welwch chi’r canlyniad terfynol, mae’n werth y cyfan. Dwi mor hapus am y canlyniad – ar y gwaith rydyn ni wedi’i wneud. Roedd rhai diwrnodau’n fwy dwys nag eraill, ond fel grŵp… gweithio gyda’n gilydd tuag at rywbeth… dwi wedi syfrdanu, dwi heb eiriau!” (Cyfranogwr Cyflawnwyr)

Effaith

Wnaeth y prosiect newid y ffordd y mae ein pobl ifanc yn gweld eu hunain ar y llwyfan.

Partneriaid a chyllidwyr

Dechreuwch brosiect gyda ni

Siaradwch â Theulu Dawns