Pwy Ydym Ni
Teulu dawns sy’n dod â phobl at ei gilydd trwy ddawns, llawenydd, creadigrwydd a chyfnewid diwylliannol!
Teulu a Chymuned Ddawns
Defnyddio dawns fel offeryn i wella lles meddyliol a chorfforol, datblygu rhwydweithiau cymorth cynaliadwy, cynyddu ymgysylltiad cymdeithasol cadarnhaol, ac i roi mwy o amlygrwydd i leisiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru a thu hwnt.
Dyma'r Tîm
Sylfaenwyr, hwyluswyr a chydweithwyr y tu ôl i'n gwaith.
-
Sylfaenydd
Abdulmujib ‘Oloye’ Yahaya
Sylfaenydd / Cyd-arweinydd Artistig
Yn troi ansicrwydd yn goreograffi, a chyfarfodydd yn fomentwm.
-
Sylfaenydd
Cathryn Haulwen
Sylfaenydd / Cyd-arweinydd Strategol
Yn adeiladu partneriaethau, systemau, a llwybrau prosiect hwylus sy'n braf ac yn glir.
-
Dr Adéọlá Dewis
Cyfarwyddwr
Yn cefnogi, yn cynghori, ac yn arwain.
-
Jolie Maman
Gwirfoddolwr Ymroddedig a Dawnsiwr Hardd
Mae ei phresenoldeb graslon a thawel yn cadw creadigrwydd a syniadau i lifo.
-
Mahamadou Drammeh
Dawnsiwr Cysylltiol
Meistr Dawns Stryd
-
Jessica Greenway
Gwirfoddolwr Ffilmio, Ffotograffiaeth a Chefnogi Digwyddiadau
Gyda gradd meistr mewn ymarfer celf, mae ei harbenigedd yn amhrisiadwy.
-
Safyan Iqbal
Arbenigwr Cyfryngau Gwirfoddol
Ffilmio, golygu, ffotograffiaeth – dalentau amrywiol.
Gweledigaeth, Cenhadaeth a Gwerthoedd
-
Cymru lle mae pob cymuned yn gweld ei hun yn cael ei dathlu ar y llwyfan ac yn y stiwdio.
Diwylliant dawns agored a chynhwysol yng Nghymru sy'n perthyn i bawb, wedi'i greu ar y cyd ag artistiaid, cyfranogwyr a chymunedau amrywiol; i weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ar lwyfannau Cymru a thu hwnt
-
Cenhadaeth Teulu Dawns yw dod â phobl ynghyd trwy ddawns, llawenydd, creadigrwydd a chyfnewid diwylliannol.
Mae Teulu Dawns yn credu gall symud feithrin cysylltiad, dealltwriaeth a chyfle; i ddathlu diwylliant, a dod â llawenydd i fywyd bob dydd trwy ddawns ac ymarfer creadigol sydd wedi’u gwreiddio mewn diwylliant. Mae cymuned sy’n dawnsio gyda’i gilydd, yn tyfu gyda’i gilydd!
-
Ein Gwerthoedd:
* Cymuned * Ymdeimlad o berthyn, cynhesrwydd, a chroeso * Parch * Ymddiriedaeth, gonestrwydd, cysondeb, a dibynadwyedd * Creadigrwydd * Treftadaeth * Rhagoriaeth * Empathi * Cyd-greu * Partneriaeth * Cyfranogiad cadarnhaol * Tegwch, amrywiaeth, a chynhwysiant gweithredol * Cefnogaeth, gofal, a thosturi
Stori'r Sylfaenwyr
Sefydlwyd Teulu Dawns yn 2024 gan Cathryn McShane-Kouyaté ac Abdulmujib ‘Oloye’ Yahaya – dau ymarferwr celfyddydau llawrydd creadigol ac artistiaid – ond hefyd dau ffrind sy’n rhannu cariad am ddawns ac yn gwybod y llawenydd a ddaw i’n cymunedau. Roeddent yn teimlo angen dwfn, yn bersonol ac o fewn eu cymunedau, i ddod o hyd i ffurfiau cynhwysol o brofi dawns. Roedd y ddau wedi gweithio gyda’i gilydd yn flaenorol fel artistiaid a dawnswyr ar brosiectau a hwyluswyd gan Butetown Arts and Culture CIC (BACA) gan gynnwys taith gaeaf Cymru gyfan Garnifal Butetown 2024/25 a Gorymdaith Llusernau Canolfan Mileniwm Cymru.
Roedd yr angerdd a rennir gan Cathryn ac Oloye dros ddawns, a’u hawydd i greu cyfleoedd mwy cynhwysol, hygyrch ac ystyrlon i bobl brofi, cymryd rhan a chysylltu trwy ddawns (heb ots lefelau sgil) – ynghyd â’u profiad uniongyrchol fel ymarferwyr creadigol annibynnol, artistiaid dawns, hyrwyddwyr cymunedol a rhieni – yn sylfaen bwysig i Deulu Dawns. Amlygodd eu profiad cyfunol y cyfleoedd a’r rhwystrau a all fodoli o fewn y sector dawns, a chryfhaodd eu huchelgais i greu llwyfan lle gall pobl, cymunedau ac artistiaid ddatblygu, cysylltu a ffynnu.
Datblygu cwmni oedd y cam rhesymegol nesaf i wireddu eu dymuniad a rennir i gyd-greu prosiectau dawns cynhwysol a oedd yn galluogi artistiaid, diwylliannau a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i gael eu harddangos a’u dathlu. Ymgorfforwyd y cwmni Teulu Dawns Cyf gyda Thŷ’r Cwmnïau ar y 18fed o Orffennaf 2024. Ar ôl gwyliau ‘ymchwil’ yn Fenis gwahoddwyd trydydd cyfarwyddwr Dr Adéọlá Dewis i ymuno â’r cwmni ym mis Mawrth 2025. Daeth Adéọlá â phrofiad, cefnogaeth, haen ychwanegol o lywodraethu i’r cwmni, yn ogystal â phersbectif newydd i arweinyddiaeth a datblygiad creadigol y cwmni.
Pan ddefnyddiwn y term ‘cynhwysol’, rydym yn cyfeirio at bobl (gan gydnabod croestoriadoldeb yn benodol) yn ogystal â gwahanol fathau o ddawns. Nod Teulu Dawns yw grymuso pawb i wneud y math o ddawns y maent am ei wneud; mae hyn yn cynnwys dawns gymunedol yn ogystal â chyfleoedd proffesiynol. Nid yw ein gweithdai a’n prosiectau yn seiliedig ar glyweliadau; maent yn agored i bawb, heb ots eu ‘gallu’. Er enghraifft, mae gan Samba Galêz aelodau rhwng 19 a 68 oed – sydd ag amrywiaeth o anghenion dysgu ac iaith, siapiau corff, a chefndiroedd diwylliannol. Rydym hefyd yn frwdfrydig dros roi llwyfan i ffurfiau amrywiol ar ddawns gymunedol a diwylliannau gwahanol – felly mae ein cynhwysoldeb yn ymwneud â diffinio dawns ei hun, yn ogystal â phwy sy’n gallu cymryd rhan ynddi.
Dechreuwch sgwrs!
Siaradwch â ni am archebu gweithdai a pherfformiadau, ac am greu prosiectau cymunedol.