Dr Adéọlá Dewis
Cyfarwyddwr
Yn cefnogi, yn cynghori, ac yn arwain.
Mae Dr Adéọlá Dewis yn artist o Drinidad a Tobago sy’n byw yng Nghymru. Mae hi’n archwilio hunaniaeth a pherthyn trwy estheteg weledol a pherfformiadol y Carnifal, y ‘mas’, y mas gwisgo a defodau gwerin. Astudiodd Adéọlá y Celfyddydau Cain a chwblhaodd ymchwil PhD mewn Theori Feirniadol a Diwylliannol. Mae ei hymchwil barhaus yn canolbwyntio ar garnifalau, digwyddiadau mas gwisgo a defodau, ac ar y ffyrdd y mae pobl o’r diaspora yn perfformio darnau – mynegiadau o hunaniaeth a pherthyn trwy gof, ail-ddychmygu a chreu mannau cysegredig. Mae ei gwaith yn cynnwys darlunio, paentio, perfformio, gair llafar ac ysgrifennu, gan archwilio dulliau o drawsnewid a ffyrdd o ail-gyflwyno’r hunan. Mae profiadau Adéọlá fel mam ac fel rhywun sydd wedi mudo wedi dylanwadu ar agweddau ar ei gwaith, ac maent yn parhau i gyfrannu at y ffordd y mae ei gwaith yn datblygu. Adéọlá yw sylfaenydd y brand dylunio ‘Add an Apron’ a ‘Laku Neg’ (Iard Du) – cwmni a redir gan artistiaid sy’n hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth rhwng y diaspora Affricanaidd a phobloedd frodorol, trwy sgyrsiau, erthyglau a digwyddiadau sy’n ymwneud ag athroniaeth, treftadaeth, y celfyddydau a diwylliant byw.