Enghraifft o Brosiect
Llwyfan Teulu Dawns yng Ngharnifal Butetown
Cawsom ein comisiynu gan Butetown Arts and Culture Association (BACA) i guradu a rheoli llwyfan dawns fel rhan o Garnifal eiconig Butetown. Roedd y llwyfan Teulu Dawns gyntaf yn 2025 mor llwyddiannus nes i ni gael ein comisiynu eto yn 2026. Mae ein rhaglenni yn arddangos dawnswyr cymunedol a phroffesiynol o bob rhan o Gymru, ac yn rhoi llwyfan i amrywiaeth eang o ffurfiau a thraddodiadau dawns.
Ail brosiect mawr Deulu Dawns oedd cynnal a chydlynu llwyfan dawns gyntaf Carnifal Butetown ar bwys yr adeilad Pierhead, Bae Caerdydd 24ain a 25ain o Awst 2025. Rheolwyd cyllideb gymedrol gan Gymdeithas Celfyddydau a Diwylliannol Butetown (BACA) i guradu rhaglen amrywiol o grwpiau dawns gymunedol a phroffesiynol o bob rhan o Gaerdydd a thu hwnt, gan gynnwys Kitsch & Sync Collective (dawns theatr stryd ddoniol), Dwy (Clocsio modern), Samba Galêz, Samba do Bispo (wedi’i leoli yn Wells), AFJ Caerdydd (dawns Affro), Raw Kids (grŵp dawnsio stryd ifanc wedi’i leoli yn Riverside), grŵp dawns ieuenctid WOW (plant Côr Oasis), Jukebox Dance Collective, Caminhos Dance Collective (Affro-Brasil, Caribïaidd, a thraddodiadau alltud), ynghyd â ‘cystadlaethau dawnsio’ agored.
Yn dilyn y llwyddiant yn 2025 ac adborth hynod gadarnhaol, cawsom ein gwahodd yn ôl i Butetown yn 2026, a’n comisiynu unwaith eto i ddarparu llwyfan dawns. Wnaethon ni adeiladu ar y flwyddyn flaenorol, gyda mwy o gyllideb a gwelliannau i’r offer sain a’r goleuadau.
Ar Ddiwrnod 1, dydd Sul 30 Awst, cafwyd perfformiadau gan Samba Galêz, Nganga Performing Arts a Mobile Theatre (dawnswyr a drymwyr o lwyth yr Ibo wedi’u lleoli yn Abertawe), Nawaris Sudanese Performing Arts Group (grŵp ieuenctid wedi’i leoli yn Riverside, Caerdydd), Grŵp Ieuenctid Gwyliau Haf Rubicon, NuWave (grŵp Rubicon i bobl dros 50 oed wedi’i leoli yn y Riverfront, Casnewydd), Teejay Olakojo (dawns Bátá o draddodiad yr Ioruba), Dawns Dawns Dawns (y dawnswyr proffesiynol Krystal S. Lowe, Amber Howells a Jodi Ann Nicholson), Raw Kids, Kitsch & Sync Collective a Wales Indonesia Dancers.
Diwrnod 2 Dydd Llun 31 Awst gwelwyd ein grŵp Cyflawnwyr yn cymryd drosodd, a oedd yn cynnwys 21 o bobl ifanc, gyda 14 ohonynt yn perfformio darnau gwreiddiol naill ai mewn grwpiau, deuawdau neu yn unigol. Ymgymerodd deg o’r 21 â rolau cynorthwyydd cynhyrchu, rheoli llwyfan ac MC gan sicrhau bod y rhaglen yn rhedeg yn esmwyth. Roedd y perfformiadau’n cynnwys Ayoub Boukhalfa yn arwain dawnswyr o Grassroots a Phafiliwn Trebiwt mewn dawns Morocaidd; Oloye yn arwain dawnswyr o Eastmoors, Butetown, a Grassroots; yn ogystal ag Anaya & Ella, Jukebox Community, Raw Kids, Culz Wave a grŵp prosiect Teulu Dawns ‘Nova Dance Crew’; a hefyd Opeyemi, Dave Chuks, Favour & Elizabeth, Wonder, Pleasant, Sarah & Ope, a Mahamadou – pob un ohonynt yn perfformio cymysgedd o ddawns Affrobît ac arddulliau stryd.
Lluniau’r Prosiect
“Cyfarchion mawr i bawb a aeth ar y llwyfan ♥️ roedd yr awyrgylch eleni yn anhygoel”
Effaith
***Perfformiad cyhoeddus raddfa fawr sy'n dathlu diwylliant a balchder cymunedol.*** “..Rwyf yng Nghaerdydd ar hyn o bryd am y misoedd nesaf, gyda’r gobaith o archwilio hunaniaeth gerddorol a chymunedau’r ddinas. Rwy’n canolbwyntio ar wyliau sy’n canolbwyntio ar y gymuned, mentrau llawr gwlad a threftadaeth ddiwylliannol; gwelais Deulu Dawns ar y llwyfan dawns yng Ngharnifal Butetown dros y penwythnos. Roeddech chi’n hollol anhygoel, ac roedd gweld cymaint o bobl ifanc yn perfformio o flaen cynulleidfa mor gefnogol yn brofiad llawn llawenydd go iawn.” (Alice Lintern, Ymchwilydd PhD, Prifysgol Aston).| “Mwynheais yn fawr fod yn rhan o’r orymdaith a rhannu’r llwyfan â grwpiau proffesiynol a chymunedol anhygoel…” (Kitsch & Sync Collective)