Enghraifft o Brosiect
Un Llais, Llawer o Wreiddiau
Prosiect a gomisiynwyd yn wreiddiol gan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i ddatblygu perfformiad newydd, gan weithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid ifanc sy'n byw yng Nghaerdydd. Prosiect partneriaeth gydweithredol sydd â chalon chyd-greu.
Dawns Ieuenctid . Cyd-greu . Cyfnewid Diwylliannol . Perfformiad
Mae heddwch byd-eang yn dechrau gyda ni 🌍✨ Roedd ymateb Teulu Dawns i thema ‘heddwch byd-eang’ Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2025 yn deillio o’n profiadau personol. Fel mudwyr sydd wedi dod o hyd i iachâd trwy gerddoriaeth, dawns, a chryfder ein rhwydweithiau cymorth yma yng Nghymru, credwn fod heddwch yn dechrau o’r tu mewn — ac yn ymledu allan. Roedd ein perfformiad yn daith o hunan ddarganfod, cysylltiad, a dynoliaeth a rennir. Mae’n ddathliad o wydnwch, ymdeimlad o berthyn, a nerth cymuned.
Datblygodd y prosiect ‘Un Llais, Llawer o Wreiddiau’ ddarn perfformio oedd yn cyfuno dawns, geiriau llafar a cherddoriaeth. Cynhaliwyd y gwaith dros gyfnod o 12 wythnos i ddechrau (ac yna prosiect pellach o 4 wythnos), gan weithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid ifanc sy’n byw yng Nghaerdydd – llawer ohonynt yn blant heb oedolion gyda nhw – ac sy’n dod o amrywiaeth o wledydd (gan gynnwys Swdan, De Swdan, Twrci, Iemen, Botswana, Saudi Arabia, Fietnam, Gini-Bissau a’r Aifft).
Cafon ni a’r bobl ifanc oedd yn rhan o’r gwaith y fraint a’r pleser o gydweithio â chymaint o bartneriaid anhygoel ar y prosiect hwn, gan gynnwys TGP Cymru, Cwmni Dawns Genedlaethol Cymru, Liam Wallace, Bella Collins, Cerdd Gymunedol Cymru, TP4Style/Temitope Ayobami Ogunseitan, Kuntah Pro, a Joel Beswick.
Perfformiwyd dwywaith ar y llwyfan Globe ddydd Mercher, 9 Gorffennaf 2025, fel rhan o raglen ‘Community Rhythms and Roots’ yr Eisteddfod, ac eto yng Ngŵyl Parc Syrcas NoFit State ym mis Medi 2025.
Roedd yn anhygoel gweld taith y broses artistig – o gwrdd â’r bobl ifanc (rhai ohonynt roedd ein hwyluswyr wedi cwrdd o’r blaen, ac eraill nad oeddent wedi cwrdd o’r blaen) gyda chefnogaeth eu rhwydwaith cymorth teuluol TGP Cymru – i ddod at ei gilydd i ddatblygu darn perfformio creadigol, yn cynnwys cerddoriaeth, adrodd straeon, symudiad a barddoniaeth. Roedd hyn oll yn bosib trwy gydweithio, cymuned a chreadigrwydd; gan ennill gwybodaeth, gwydnwch, hyder ac ymddiriedaeth. Roedd yn rhywbeth arbennig iawn.
🎥Amy Fleming (ffilmio & golygu) @ameznoshamez
📷 Chinedum Noir @photoswithnoir
Lluniau’r Prosiect
“Helo, Rhianna ydw i. Hoffwn ddweud fy mod i’n teimlo mor dda, gan ein bod wedi treulio 12 wythnos yn ymarfer ar gyfer y diwrnod hwn… yn Llangollen. Roedd yn anhygoel. Roedden ni’n gwneud yn dda iawn… Hoffwn ddweud y byddaf yn parhau gyda Theulu Dawns, achos rwyf wir yn caru’r hyn maen nhw’n ei wneud, ac mae’r bobl yno yn hynod o gyfeillgar. Roedden ni’n ymarfer, yna aethon ni gyda’n gilydd a pherfformio – roedd hi fel petai ni wedi adnabod ein gilydd am fwy na 12 wythnos, sy’n wirioneddol anhygoel… A diolch, Oloye, diolch Cathryn, a diolch i bawb arall oedd gyda ni… Felly ie, diolch yn fawr iawn.”
Effaith
Wnaeth cyfranogwyr magu hyder a chyd-greu perfformiad terfynol llawen.