Arddangosiadau Byw
Perfformiadau
Dod â phobl, diwylliannau a straeon ynghyd trwy berfformiad byw.
Mae Teulu Dawns yn credu fod perfformiad byw yn gyfle i ddod â phobl ynghyd, dathlu ein gwahaniaethau, rhannu straeon, a chreu eiliadau o lawenydd a chysylltiad.
Rydym yn creu ac yn curadu arddangosfeydd byw lliwgar a llwyfannau dawns sy’n dathlu amrywiaeth ddiwylliannol, mynegiant artistig a chysylltiad cymunedol.
- Cyfarwyddyd creadigol a churadu
- Perfformiad byw a dawns
- Rhaglennu artistiaid
- Ymgysylltu â chynulleidfaoedd

Roedd Llwyfan Teulu Dawns yng Ngharnifal Butetown yn adlewyrchiad hyfryd o hyn. Croesawon ni gynulleidfaoedd o bob rhan o Gaerdydd, gan gynnwys llawer o bobl a oedd yn mynd heibio a wnaeth stopio, aros, ac ymuno a’r dathliad.
Daeth y llwyfan â chymysgedd hyfryd o ddiwylliannau, cenedlaethau, ac ymadroddion artistig ynghyd, o grŵp dawns ieuenctid o Swdan a chwmni dawnsio o Indonesia i ddawnswyr hŷn o Rubicon. Daeth pob perfformiad â rhywbeth unigryw, gan greu profiad a rennir a oedd yn dathlu amrywiaeth a chreadigrwydd yn ein cymunedau.
Mae ein sioeau byw yn dod â dawns, cerddoriaeth, symudiad ac adrodd storiâu diwylliannol ynghyd. Mae pob sioe yn cael ei llunio gan y bobl, y cymunedau, a’r mannau rydym yn gweithio gyda nhw.
Boed yn creu llwyfan dawns gymunedol, yn cydweithio â gwyliau, neu’n dod ag artistiaid ynghyd ar gyfer digwyddiad arbennig, mae ein ffocws yn parhau’n ddigyfnewid; sef creu profiadau croesawgar, cynhwysol a deniadol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn.
Mae ein gwaith yn cynnwys rhaglennu artistiaid, curadu perfformiadau, cyfarwyddo creadigol, cyfranogiad cynulleidfaoedd, cyflwyniadau diwylliannol, a chydweithio â threfnwyr digwyddiadau a phartneriaid gwyliau.
I ni, nid yn unig yn yr hyn sy’n digwydd ar y llwyfan y mae harddwch sioe fyw, ond hefyd yn y cysylltiadau a wneir, y straeon a ddarganfyddir a’r llawenydd a rennir rhwng perfformio.