Pryd
Sul 29 Tach 2026 5pm
- Ble
- Canolfan Mileniwm Cymru
- Fformat
- Digwyddiad
- Argaeledd
- Archebu ar agor

GOLEUADAU’R BYD ![]()
Parêd Llusernau a Chyngerdd
Ymunwch â ni ddydd Sul 29 Tachwedd ar gyfer dathliad ysblennydd o olau, diwylliant a chymuned yng nghalon Butetown.
Wrth i’r gaeaf ddyfnhau a’r dyddiau fynd yn fyrrach, rydym yn dathlu troad y flwyddyn a dychweliad graddol y golau. Wedi’i ysbrydoli gan y cylch tragwyddol hwn, mae Goleuadau’r Byd yn dathlu’r golau y mae pobl, diwylliannau a thraddodiadau yn ei ddod i’n byd.
Disgwyliwch orymdaith ysblennydd yn cynnwys:
Pypedau goleuedig anferth
Y Mari Lwyd
Cert Asyn
Cerddoriaeth, dawns a pherfformio
Traddodiadau o Gymru ac o bob cwr o’r byd
Bydd yr orymdaith yn teithio o Oval Basin i’r Eglwys Norwyaidd, cyn parhau i lwyfan Glanfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar gyfer rhaglen wych o berfformiadau Nadoligaidd.
Mae perfformiadau byw yn cynnwys:
● Band Pres Melingriffiths
● Raw Kids
● Teulu Dawns
● BACA Junkanoo
● Côr SOEL
● Y seren sy’n codi, Luchia!
DIGWYDDIAD AM DDIM – AGORED I BAWB!
Dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau a byddwch yn rhan o’r dathliad gwych hwn.
Cofrestrwch ar-lein i gael cawl poeth am ddim!
Llawer o oleuadau. Llawer o ddiwylliannau. Un dathliad.
